Mae David Cameron wedi addo refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd os bydd y Ceidwadwyr yn ennill etholiad San Steffan yn 2015.
Ers yr etholiadau lleol yn rhannau o Loegr ac yn Sir Fôn ar ddechrau mis Mai mae’r pwnc o aelodaeth y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd wedi derbyn llawer o sylw gan wleidyddion a’r cyfryngau.
Oherwydd canlyniadau cryf UKIP, mae rhai aelodau o’r blaid Geidwadol wedi gofyn am refferendwm ar y mater er mwyn tawelu’r twf diweddar y mae UKIP wedi’u gweld.
Mae’r Blaid Geidwadol wedi cyhoeddi mesur drafft ar Ewrop sy’n cynnwys cynnal refferendwm a’r aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd. Y cwestiwn sydd wedi ei benderfynu ar yn y mesur drafft yw, “A ydych yn credu y dylai’r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd?”
Yn ôl William Hague, Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y Deyrnas Unedig “Mae David Cameron wedi dweud, os fydd e’n Brif Weinidog, fe fydd yna refferendwm Mewn-Allan yn y Senedd nesaf, ac yn ystod y Senedd hon y byddwn yn edrych ar yr holl opsiynau i danlinellu’r ffaith bod ein hymrwymiad i’r refferendwm yn absoliwt.”
Fe ychwanegodd Grant Shapps, Cadeirydd y Blaid Geidwadol, “Rydym wedi gosod ein safbwynt ac wedi cyhoeddi’r mesur drafft yma i roi refferendwm Mewn-Allan ar Ewrop i bobl Prydain.
“Nawr, mae’n hanfodol i glywed a yw Llafur a’r pleidiau eraill wir yn barod i ymddiried yn y cyhoedd ym Mhrydain i benderfynu ar ein perthynas ag Ewrop yn y dyfodol”
Mae Golwg360 eisiau gwybod eich barn chi ar y mater, pleidleisiwch yn ein pôl piniwn isod.