Carl Sargeant
Mae’r Gweinidog Tai, Carl Sargeant wedi penderfynu peidio galw cynlluniau dadleuol i godi datblygiad tai ym Mhenybanc ger Rhydaman i mewn.
Roedd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru polisi TAN 20, sy’n gyfrifol am ystyried y Gymraeg wrth farnu ar geisiadau i godi tai mewn cymunedau Cymraeg.
Mae hi wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “laesu dwylo”.
Roedd Dyfodol yr Iaith wedi gobeithio y byddai’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, Leighton Andrews yn cydweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin er mwyn ceisio gohirio’r cais.
Dangosodd canlyniadau Cyfrifiad 2011 bod y Gymraeg bellach yn iaith leiafrifol yn y sir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo adolygu’r polisi TAN 20 ers dwy flynedd, ond mae ymgyrchwyr iaith wedi eu beirniadu am fod mor araf yn dod i benderfyniad.
Cymdeithas yr Iaith
Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn mynd i’r Cynulliad heddiw i fynegi eu pryderon am sefyllfa Penybanc.
Yn y Senedd, byddan nhw’n mynegi eu gwrthwynebiad i’r datblygiad yn swyddogol.
Fel rhan o gynllun Penybanc, fe fydd 289 o dai newydd yn cael eu codi yn yr ardal.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno llun o arwydd protest i’r Aelod Cynulliad lleol, Rhodri Glyn Thomas heddiw, er mwyn iddo ei drosglwyddo i Leighton Andrews.
Mae disgwyl i arweinydd yr ymgyrch, Joy Davies ddweud: “Ein teimlad ni’n lleol yw y bydd datblygiad o’r maint hwn yn cael effaith negyddol ar y gymuned.
“Mae Penybanc a Saron yn gymunedau bach, clos gydag ethos Cymraeg gryf.
“Does dim galw yn ardal Rhydaman am y nifer hyn o dai. Mae hyn yn sicr o wanhau safle’r iaith yn yr ardal felly.”
Ddydd Llun nesaf, wrth i Eisteddfod yr Urdd ddechrau ym Moncath, Sir Benfro, fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal helfa drysor yn gofyn i bobol chwilio am bolisi TAN 20.
Dyfodol yr Iaith
Mae mudiad Dyfodol yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad Carl Sargeant i beidio galw’r cynlluniau i mewn.
Dywedodd cadeirydd y mudiad, Heini Gruffudd: “Cawson ni wybod gan y Llywodraeth eu bod yn gallu rhoi ystyriaeth i effaith y datblygiad ar goedwigaeth, cefn gwlad, dŵr a’r amgylchedd, ond nid ar y Gymraeg.
“Fe wnaeth y llywodraeth ymgynghori â chyrff yn cynrychioli’r materion yna, ond nid â Chomisiynydd y Gymraeg sydd wedi mynegi pryder am y datblygiad.
“Mae’n amlwg nad oes gan y Llywodraeth reoliadau sy’n caniatáu iddi ystyried y Gymraeg.
“Dylai’r Llywodraeth alw i mewn bob cynllun dros 50 o dai nes bydd TAN 20 newydd ar waith.
“Heb ganllawiau cynllunio ar yr iaith, a heb fod yr iaith yn ystyriaeth wrth alw cynlluniau i mewn, mae’r Gymraeg yn gwbl ddiamddiffyn.”