Mae dyn 18 oed o ardal Llanelli wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud â’r coronafeirws ar ôl anwybyddu pum hysbysiad blaenorol.
Y dyn o Lwynhendy yw’r cyntaf i gael ei arestio yn ardal Heddlu Dyfed-Powys ac fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o fod yn niwsans i’r cyhoedd ar ôl bod yn gyrru yn yr ardal leol.
Mae’n cael ei holi yn y ddalfa.
Mae’r heddlu’n rhybuddio y byddan nhw’n gweithredu yn erbyn unrhyw un sy’n anwybyddu’r cyngor i beidio â theithio oni bai bod gwir rhaid.