Mae Heddlu’r De yn parhau i apelio am wybodaeth am ddyn 19 oed sydd ar goll ar ôl noson allan yn Abertawe.
Nid yw Taylor Harvey o’r Pil ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei weld ers iddo fod yn dathlu ei ben-blwydd yn Abertawe ddydd Sul, Rhagfyr 22.
Cafodd ei weld y tro diwethaf tua 4yb y bore tu allan i glwb nos Oxygen yn Lôn Northampton.
Mae’n 5’10 o daldra ac o faint tenau. Roedd yn gwisgo crys-t glas, jîns glas a trainers du a thop du.
Mae wedi cael ei annog i gysylltu gyda’i deulu neu’r heddlu i roi gwybod ei fod yn ddiogel.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth amdano ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1900469232.