Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn ifanc yn Y Barri.
Fe wnaeth Peter McCarthy, 36, a Ryan Palmer, 33 ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (dydd Sadwrn).
Gorchmynwyd cadw’r ddau yn y ddalfa hyd y cynhelir gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, Medi’r 2il.
Cafwyd hyd i gorff Harry Baker, 17, yn ardal y dociau yn Y Barri dydd Mercher.
Mae dau ddyn arall yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Cafodd dynes 38 oed ei rhyddhau wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â digwyddiad neu ffrae yn ardal ffordd y Mileniwm a Ffordd Caerdydd yn Y Barri rhwng hanner nos a 1 o’r gloch fore dydd Mercher.