Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Gogledd Cymru mai dyn lleol, 47 oed, a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad beic cwad yng Ngwynedd dros y penwythnos.
Roedd Harri Wyn Thomas yn 47 ac wedi’i fagu yn ardal Llanbedrog ger Pwllheli.
Digwyddodd y ddamwain nos Sul (Mawrth 18) ar ffordd y B4413 rhwng pentrefi Llanbedrog a Mynytho, a dim ond un cerbyd, sef beic cwad, oedd yn rhan o’r digwyddiad.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad tua 7yh, a chafodd gyrrwr y beic cwad ei gludo i ysbyty yn Stoke gan yr ambiwlans awyr.
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad.