Cadw’r gymuned Gymraeg yn gryf a denu rhagor o bobol i fod yn rhan ohoni, yw nod Llywydd newydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA).
Cafodd Anna Wyn ei hethol ddydd Gwener diwethaf (Mawrth 16) yn dilyn wythnos o bleidleisio, a hi fydd yn olynu Gwion Llwyd Williams yn y swydd pan ddaw mis Gorffennaf.
 gwaith adnewyddu yn dechrau ar neuadd eiconig Pantycelyn dros wyliau’r haf, fe fydd myfyrwyr Cymraeg y flwyddyn nesaf yn cael eu gwasgaru i wahanol neuaddau a lletyau yn ardal Aberystwyth. A dyna pam mai gobaith – a her fawr – Anna Wyn yw sicrhau na fydd hyn yn cael effaith ar naws y gymuned Gymraeg.
“Dw i’n edrych ymlaen, ond mae o bach yn daunting hefyd,” meddai wrth golwg360. “Mae’n joban fawr rwan fod Pantycelyn yn cau.
“Dw i isio gwneud yn siŵr fod pob dim yn cario ymlaen – bod niferoedd ddim yn gwaethygu pan na fyddwn ym Mhantycelyn,” meddai wedyn. “Ond hefyd, dw i isio agor o allan fel bod mwy o bobol yn gwybod am be ydan ni’n ei wneud.
“Oherwydd mae yna lot o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, ond dydyn nhw ddim yn aros mewn lletyau Cymraeg,” meddai wedyn. “Felly dydyn nhw ddim yn gwybod am UMCA a phob dim rydan ni’n ei wneud. Dyna pam y baswn i’n licio hysbysebu mwy am hynny fel bod niferoedd yn aros i fyny.”
Mae myfyrwyr yn gallu defnyddio llawr gwaelod Pantycelyn ar hyn o bryd, ond mae trafodaethau eisoes wedi dechrau ynglŷn ag adleoli swyddfa UMCA o’r neuadd, dros dro.
Pwy yw Anna Wyn?
Mae Anna Wyn yn hanu o Lanrug, Gwynedd, ac mae ar ei blwyddyn olaf yn astudio Cymraeg Proffesiynol yn y Coleg ger y Lli.
Hi yw Cadeirydd UMCA ar hyn o bryd, arweinydd Côr Bechgyn Aelwyd Pantycelyn, ac is-gapten tîm pêl-rwyd merched Y Geltaidd.