Mae dyn wedi cyfaddef llofruddio mam ifanc, ar ôl ei chyfarfod hi ar wefan dod o hyd i gymar, mewn ymosodiad “ffyrnig”.
Fe laddodd Anthony Lowe, 46 oed, Katherine Smith, 26, yn Nhrelái, Caerdydd, ddau fis ar ôl iddyn nhw gwrdd ar Plenty of Fish.
Fe gafodd hi ei thrywanu 33 gwaith ym mis Medi y llynedd – yn ei chefn, ei chalon a’i hysgyfaint.
Plediodd Anthony Lowe, o ardal Glanyrafon yn y brifddinas, yn euog i lofruddiaeth yn Llys y Goron, Caerdydd heddiw a bydd yn cael ei ddedfrydu eto.
Fe ddisgrifiodd yr erlynydd yr ymosodiad fel un “bwriadol, parhaus a ffyrnig”.