Mae dyn wedi cael ei arestio wedi i ddynes leol gal ei hanafu mewn damwain ger yr Atomfa ar yr A470 ger Trawsfynydd neithiwr (29 Mehefin).

Cafodd y ddynes, sydd yn ei thridegau, ei chludo i Ysbyty Stoke toc wedi 20:30 gan yr Ambiwlans Awyr.

Mae dyn lleol, hefyd yn ei dridegau, wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru yn beryglus a dreifio dan ddylanwad alcohol, meddai Heddlu De Gwynedd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion a oedd yn teithio rhwng pentref Trawsfynydd a mynedfa’r Orsaf Bŵer rhwng 20:25 a 20:35 neithiwr.

“Dw i’n gobeithio y bydd y ddynes ifanc yn gwella’n iawn,” meddai’r Sarjant Raymond Williams o Adran Plismona’r Ffyrdd.

“Dw i’n apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd rhwng pentref Trawsfynydd a’r fynedfa i’r Orsaf Bŵer rhwng 20:25 a 20:35, neu a allai fod â lluniau dashcam sy’n dangos Audi A3 glas gyda phlât 08 yn gyrru ar y ffordd cyn y ddamwain, i gysylltu â ni.

Bu’r ffordd ar gau tan 3 fore heddiw (30 Mehefin), ac mae’r dyn sydd wedi cael ei arestio dal yn y ddalfa.

“Cafodd y ffordd ei chau er mwyn cynnal ymchwiliad fforensig llawn, a dw i’n ddiolchgar am yr amynedd a gafodd ei ddangos gan ddefnyddwyr ar y ffordd, a gafodd eu heffeithio, efallai, gan y digwyddiad hwn,” meddai Raymond Williams.