Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 26 oed yng Nghasnewydd.

Cafodd yr heddlu eu galw wedi adroddiadau ynghylch “ymosodiad difrifol” yn Heol Balfe yng Nghasnewydd tua 9:05pm neithiwr, 10 Mehefin.

Erbyn iddyn nhw gyrraedd, roedd y dyn yn anymwybodol.

Cafodd parafeddygon Ambiwlans Cymru eu galw hefyd, a bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi cael ei lansio, ac mae pum person – tri dyn 18 ac 19 oed, a dau fachgen 17 oed – yn y ddalfa ar hyn o bryd ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad i gysylltu â nhw.