Mae Heddlu’r Gogledd wedi achub bywydau dau o bobol gan ddefnyddio chwistrell trwyn ar ôl iddyn nhw gymryd gorddos o gyffuriau.

Fe fu plismyn o’r llu yn cymryd rhan mewn cynllun arloesol i dreialu chwistrell trwyn Naloxone sy’n gwrthweithio effaith heroin a gorddosau opioid eraill.

Mae’r holl swyddogion heddlu sy’n cymryd rhan yn y cynllun treialu wedi gwirfoddoli i gario’r chwistrell sy’n gallu cael ei defnyddio i drin gorddos cyffuriau gan gynnwys cyffuriau heroin, fentanyl a chyffuriau lladd poen sydd ar gael ar bresgripsiwn, tra eu bod nhw allan ar y rhawd, ac mae ganddyn nhw offer amddiffyn personol gan gynnwys masgiau wyneb os oes angen iddyn nhw ddefnyddio’r chwistrell.

Cafodd yr heddlu eu galw i fflat yng Nghei Connah, lle’r oedd dyn yn anymwybodol, ac roedd yr heddlu’n credu ei fod e wedi cymryd gorddos o gyffuriau.

Ar ôl clywed am yr alwad, aeth y plismyn Tom Brownhill a James Tapley i’r eiddo gan eu bod nhw wedi cael eu hyfforddi i ddefnyddio’r chwistrell sydd wedi’i hyrwyddo gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, ac yntau wedi bod yn allweddol yn y cynllun peilot yn Sir y Fflint.

Yn y sir, roedd 21 o farwolaethau o ganlyniad i gyffuriau rhwng 2016 a 2018 – cyfradd o fwy nag un o bob pump o gyfanswm y gogledd.

Y gobaith yw ymestyn y cynllun ar draws y gogledd a hyfforddi rhagor o blismyn i ddefnyddio’r chwistrell.

Ymateb cwnstabliaid

“Pan ddaeth yr alwad i mewn, mi wnaethon ni adnabod symptomau gorddos cyffuriau felly mi wnaethon ni ymateb o dan oleuadau glas a sicrhau bod ambiwlans ar ei ffordd hefyd,” meddai’r Cwnstabl Tom Brownhill.

“Mae’r eiddo lle daethpwyd o hyd i’r dyn yn cael ei ddefnyddio fel sgwat a phan gyrhaeddon ni yno roedd y dyn yn anymwybodol. Mae’n ddefnyddiwr heroin amser hir ac er i’r bobl eraill oedd yno ddweud nad oedd wedi cymryd unrhyw beth, roedd yn amlwg ei fod wedi gwneud hynny.

“Roedd yn anadlu’n llafurus iawn ac roedd yn anymwybodol felly rhoddodd y ddau ohonom ddos ​​yr un iddo o’r chwistrell roeddem yn ei gario.

“Mae’r chwistrell yn gweithio’n gyflym iawn ac o fewn tri munud fe ddechreuodd y dyn ddod at ei hun ond yn sicr roedd wedi bod mewn cyflwr gwael.

“Roedd yn dioddef hypothermia sy’n golygu bod tymheredd ei gorff wedi gostwng yn gyflym ac rwy’n credu ei fod o fewn ychydig funudau i farw ac er i’r ambiwlans gyrraedd yn gyflym, heb i’r dyn gael dos o’r chwistrell rwy’n credu y byddai wedi bod yn rhy hwyr.”

“Hwn oedd y tro cyntaf i mi allu defnyddio’r Naloxone ond rwyf wedi cael fy ngalw o’r blaen i sawl digwyddiad gan gynnwys marwolaethau oherwydd gorddos cyffuriau.

“Mae’n dda gwybod y gallwn ni fod yn rhan o’r ateb yn yr achosion hyn yn hytrach na gorfod sefyll o’r neilltu a disgwyl am yr ambiwlans.”

“Chwistrell trwyn syml yw’r Naloxone ac fe weithiodd yn union fel y dywedwyd wrthym y byddai’n gweithio pan oeddem yn hyfforddi,” meddai’r Cwnstabl James Tapley.

“Mi wnaethon ni ddarganfod wedyn mai achos o orddos heroin oedd hyn a bod y claf wedi gwella ond hebddo byddem wedi bod yn aros am yr ambiwlans ac mae’n debyg bod y criwiau ambiwlans hyd yn oed yn fwy prysur na ni yn y pandemig presennol.”

Ymateb Arfon Jones

Mae Arfon Jones yn ymgyrchydd ers amser hir yn erbyn deddfau cyffuriau y Deyrnas Unedig, sydd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn Ewrop.

“Rwy’n falch iawn bod bywydau eisoes wedi’u hachub o ganlyniad i hyfforddi swyddogion heddlu i ddefnyddio chwistrell Naloxone,” meddai.

“Hon yw egwyddor gyntaf plismona, sef ein bod ni yno i arbed bywydau ac amddiffyn pobl ac mae hyn yn rhan o’n gwaith craidd.

“Mae’n bwysig iawn i swyddogion heddlu allu achub bywyd a dyna pam mae’r hyfforddiant hwn mor bwysig oherwydd does dim byd gwaeth na chyrraedd digwyddiad a methu â helpu.

“Mae Naloxone yn gweithio fel diffibriliwr ac yn fy marn i does dim gwahaniaeth rhwng hyn a defnyddio diffibriliwr ar rywun sydd wedi cael trawiad ar y galon.

“Mae gan bob bywyd werth cyfartal a’r peth pwysicaf yma yw bod y person yn fyw ond mae ystyriaethau eraill hefyd oherwydd pe na byddem wedi gallu adfer yr unigolyn yma, byddai wedi bod yn ofynnol cynnal ymchwiliad i farwolaeth yn dilyn cyswllt â’r heddlu.

“Mae budd i’r heddlu oherwydd gallai marwolaeth effeithio ar eu morâl a’u hiechyd meddwl, felly wrth i ni dreialu Naloxone rwy’n gobeithio y bydd yn cael ei gyflwyno ledled y Gogledd cyn bo hir ac y byddwn yn hyfforddi mwy o wirfoddolwyr heddlu yn fuan.”