Mae’r Cymro, Ryan Giggs, wedi cadw at ei record ryfeddol o sgorio ym mhob tymor ers ffurfio’r Uwch Gynghrair.
Ac yntau bellach yn 39 oed, des yr un chwaraewr arall wedi dod yn agos at record o’r fath, a’r cyfan wedi eu sgorio i un clwb.
Wrth fachu un o’r goliau ym muddugollaeth Manchester United o 2-0 yn erbyn Everton, fe sicrhaodd ei fod wedi canfod y rhwyd ym mhob tymor ers y dechrau, yn 1992.
Giggs a sgoriodd gynta’ ar ôl 13 munud, gan dderbyn pas oddi wrth Van Persie a sgorio oddi ar ochr fewn y postyn.
Mae’r fuddugoliaeth hefyd yn golygu bod Man Utd 12 pwynt ar y blaen yn y ras am y bencampwriaeth.
Ymhlith cerrig milltir eraill Giggs mae’r ffaith mai ef sydd wedi ennill mwya’ o bencampwriaethau’r Uwch Gynghrair ac wedi chwarae mewn mwy o gêmau Uwch Gynghrair na neb arall.