Ffrainc 6–16 Cymru

Adferwyd hunan barch rygbi Cymru yn y Stade de France nos Sadwrn wrth i’r Cochion guro Ffrainc ar ail benwythnos Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Gêm ddigon diflas oedd hi ar y cyfan a chyfartal oedd hi gyda deg munud i fynd. Yna, cafwyd un eiliad o safon gan Dan Biggar i greu cais i George North, cais a oedd yn ddigon i ennill y gêm i’r ymwelwyr.

Cyfnewid Ciciau

Agorodd Fredrick Michalak y sgorio wedi chwarter awr gyda chic gosb ond unionodd Leigh Halfpenny dri munud yn ddiweddarach gyda chic syml yn dilyn rhediad da Biggar.

Gwastraffodd Ffrainc gyfle da i sgorio cais yn fuan wedyn pan ddewisodd Yoann Huget gymryd y dacl yn lle pasio i Wesley Fofana a oedd yn gwbl rydd.

Cyfartal oedd hi ar yr egwyl felly ond roedd Cymru ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod diolch i gic gosb Halfpenny o bellter.

Dechreuodd Ffrainc bwyso wedi hynny a llwyddodd Michelak i unioni pethau gyda’i ail gic gosb wedi 53 munud.

Cais o’r Diwedd

Ychydig o gyfleoedd a gafodd y ddau dîm trwy gydol y gêm mewn gwirionedd ac roedd angen rhyw sbarc bach gan un chwaraewr i’w hennill hi. Daeth hwnnw wyth munud o’r diwedd pan anelodd Biggar gic gywir dros amddiffyn Ffrainc cyn i North wneud yn dda i ddal y bêl a’i thirio.

Llwyddodd Halfpenny gyda throsiad anodd o’r ystlys cyn sicrhau’r fuddugoliaeth ddau funud yn ddiweddarach gyda chic gosb o bellter. Deg pwynt o fantais i Gymru a dim ffordd yn ôl i Ffrainc.

Ymateb

Mike Phillips:

“Fi’n ’nabod rhai o fois [Ffrainc] ac mae’n neis chwarae yn eu herbyn.”

“Roedd y fuddugoliaeth heddiw yn un o’r buddugoliaethau mwyaf ry’n ni wedi ei gael. Ar ôl yr wythnos ddiwethaf,  mae dod i fan hyn ac ennill yn enfawr, mae’r bois yn haeddu pob clod.”

.

Ffrainc

Ciciau Cosb: Fredric Michalak 15’, 53’

.

Cymru

Cais: George North 72’

Trosiad: Leigh Halfpenny 73’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 18’, 43’, 75’