Casnewydd 2–2 Tamworth
Collodd Casnewydd gyfle am fuddugoliaeth yn Uwch Gynghrair y Blue Square wrth ildio cic o’r smotyn hwyr yn erbyn Tamworth ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Roedd hi’n ymddangos fod goliau hanner cyntaf Scott Donnelly a Byron Anthony yn mynd i ennill y gêm i Gasnewydd ond tynnodd Lee Henrie un yn ôl i Tamworth cyn i Adam Cunnington sgorio gôl hwyr o’r smotyn i gipio pwynt i’r ymwelwyr.
Cafodd Casnewydd y dechrau perffaith wrth i Donnelly sgorio wedi dim ond dau ddeg chwech eiliad o’i gêm gyntaf dros y clwb. Manteisiodd y blaenwr ar flerwch amddiffynnol cyn curo Tom Marshall yn y gôl.
Dyblodd Anthony’r fantais wedi hanner awr pan wyrodd gic rydd Michael Flynn i gefn y rhwyd ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.
Caeodd Lee Hendry’r bwlch i Tamworth gydag ychydig dros chwarter awr ar ôl gydag ergyd dda o ochr y cwrt cosbi.
Ac fe gipiodd yr ymwelwyr bwynt yn yr eiliadau olaf pan sgoriodd Cunnington o’r smotyn yn dilyn trosedd Anthony ar Kyle Perry.
Byddai buddugoliaeth wedi codi Casnewydd i’r trydydd safle yn y tabl ond disgyn maent yn hytrach i’r pumed safle ar ôl ildio’r gôl hwyr.
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley (Julian 72’), Yakubu, Anthony, Pipe, Minshull, Sandell, Flynn, Jolley, Willmott, Donnelly (Swallow 82’), Crow
Goliau: Donnelly 1’, Anthony 30’
Cardiau Melyn: Minshull 42’, Sandell 56’, Swallow 90’, Anthony 90’
.
Tamworth
Tîm: Marshall, Courtney, Gudger, Thorpe (Oji 37’), Kelly, Hendrie, Kerry (Byfield 45’), Breedon, Lloyd (Perry 78’), Cunnington, Wright
Goliau: Hendrie 74’, Cunnington [c.o.s.] 90’
Cardiau Melyn: Marshall 30’, Hendrie 45’
.
Torf: 1,712