Huddersfield 0–0 Caerdydd

Di sgôr oedd hi rhwng Huddersfield a Chaerdydd yn Stadiwm John Smith’s brynhawn Sadwrn, ond roedd y gêm gyfartal yn ddigon i’r Adar Gleision ymestyn eu mantais ar frig y Bencampwriaeth i un pwynt ar ddeg.

Matthew Connolly a ddaeth agosaf i’r ymwelwyr ond tarodd ei ergyd o bellter yn erbyn y postyn yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf.

Fe wnaeth James Vaughan rwydo i Huddersfield ond barnodd y dyfarnwr fod trosedd ar y gôl-geidwad, David Marshall, er mawr ryddhad i’r Adar Gleision.

Dim chweched buddugoliaeth oddi cartref o’r bron i Gaerdydd felly ond mae’r pwynt yn ddigon i ymestyn eu mantais ar y brig gan i Gaerlŷr golli yn annisgwyl yn Peterborough, y tîm ar y gwaelod.

.

Huddersfield

Tîm: Smithies, Woods, Gerrard, Hunt, Lynch, Norwood (Atkinson 84’), Clayton, Arfield, Danns, Scannell, Vaughan (Lee 90’)

Cardiau Melyn: Lynch 45’, Hunt 88’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton (Nugent 46’), Taylor, Hudson, Connolly, Whittingham, Conway, Kim Bo-Kyung (Helguson 46’), Gunnarsson, Smith (Campbell 73’), Bellamy

Cardiau Melyn: Taylor 25’, Nugent 57’, Bellamy 89’

.

Torf: 15,265