Abertawe 4–1 QPR

Mae tymor rhagorol Abertawe yn parhau wedi iddynt roi cweir i QPR yn Stadiwm Liberty brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Michu ddwy gôl wrth i’r Elyrch rwydo pedair yn erbyn yr ymwelwyr o Lundain mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Roedd Abertawe ar y blaen wedi dim ond wyth munud diolch i gôl gyntaf Michu. Methodd Julio Cesar yn y gôl i QPR ddal ei afael ar ergyd Nathan Dyer o bellter ac ymatebodd y Sbaenwr yng nghynt na neb i rwydo.

Roedd bai ar gôl-geidwad Brasil ar gyfer yr ail gôl hefyd wedi deunaw munud. Torrodd Angel Rangel i’r cwrt cosbi o’r asgell dde ac er i Cesar arbed ei ergyd gyntaf fe ddaeth hi’n syth yn ôl at y cefnwr a rhwydodd ar yr ail gyfle.

Roedd Michel Vorm yn y gôl i’r Elyrch yn cael problemau tebyg wrth geisio cadw ei afael ar y bêl a phan arbedodd ergyd Abdel Taarabt yn gynnar yn yr ail gyfnod fe adlamodd yn syth i lwybr Bobby Zamora a hanerodd yntau fantais Abertawe.

Yn ôl y daeth yr Elyrch yn syth serch hynny gyda Pablo Hernandez yn rhwydo gôl unigol dda ddau funud yn ddiweddarach. Curodd y Sbaenwr ddau amddiffynnwr yn y cwrt cosbi cyn llithro’r bêl heibio Cesar.

Ac roedd y fuddugoliaeth yn berffaith ddiogel hanner ffordd trwy’r hanner pan sgoriodd Michu ei ail o’r gêm yn dilyn pas dreiddgar Pablo tu ôl i’r amddiffyn.

Mae’r canlyniad yn codi Abertawe i’r seithfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Chico (Bartley 33’), Williams, Rangel, Davies, Michu (Moore 80’), Pablo, Dyer, Routledge (Agustien 62’), De Guzman, Ki Sung-Yeung

Goliau: Michu 8’, 67’, Rangel 18’, Pablo 50’

Cerdyn Melyn: Davies 45’

.

QPR

Tîm: Cesar, Traore, Samba, Hill, Onuoha, Derry (Granero 46’), Taarabt, Jenas (Wright-Phillips 68’), Townsend, M’bia, Mackie (Zamora 46’)

Gôl: Zamora 48’

Cardiau Melyn: Samba 10’, Taarabt 40’, Traore 45’

.

Torf: 20,529