Bangor 3–3 Prestatyn
Cafwyd diweddglo dramatig yng ngêm fyw Sgorio yn Uwch Gynghrair Cymru brynhawn Sadwrn wrth i Michael Parker sicrhau pwynt i Brestatyn gyda gôl hwyr yn erbyn Bangor yn Nantporth.
Rhoddodd Andy Parkinson Brestatyn ar y blaen yn gynnar ond bu rhaid i’r ymwelwyr chwarae rhan helaeth o’r gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Jason Price. Tarodd Bangor yn ôl ac roeddynt 3-2 ar y blaen gydag eiliadau i fynd ond rhwydodd Parker i sicrhau pwynt i dîm Neil Gibson.
Hanner Cyntaf
Cafodd Price gyfle gwych i roi Prestatyn ar y blaen yn y deg munud cyntaf ond anelodd ei ergyd o bum llath yn syth at Lee Idzi yn y gôl i Fangor.
Ond ni fu rhaid i’r ymwelwyr aros yn hir wrth i Parkinson rwydo gydag ergyd gywir o ochr y cwrt cosbi wedi i Price sodli’r bêl i’w lwybr wedi deuddeg munud.
Cafodd Bangor gic o’r smotyn ddau funud yn ddiweddarach pan benderfynodd y dyfarnwr yn anghywir fod Tommy Holmes wedi llorio Chris Simm yn y cwrt cosbi. Ond cafwyd cyfiawnder wrth i John Hill-Dunt arbed cynnig Simm o ddeuddeg llath.
Daeth ail gic o’r smotyn i Fangor hanner ffordd trwy’r hanner ac arweinodd honno at ail gerdyn melyn a cherdyn coch i Price am lawio. Dave Morley a gymerodd hon ond yr un oedd y canlyniad, Hill-Dunt yn arbed yn isel i’w dde.
Cafodd Simm gyfle da hefyd un ar un gyda’r golwr mawr ond llwyddodd Hill-Dunt i arbed eto.
Ail Hanner
Roedd y Dinasyddion yn gyfartal wedi dim ond pedwar munud o’r ail hanner diolch i ergyd droed chwith wych Leroy Makin o ochr y cwrt cosbi i’r gornel uchaf. Gôl yn ei gêm gyntaf i’r chwaraewr canol cae newydd a gôl i’w chofio hefyd.
Methodd Damien Allen ddau gyfle da i Fangor wedi hynny. Peniodd y cyntaf i’r rhwyd ochr ac ergydiodd yr ail yn erbyn y trawst ar ôl gwneud y gwaith caled i gyd.
Ac i rwbio halen yn y briw, rhwng y ddwy fe rwydodd Parkinson ei ail i roi Prestatyn yn ôl ar y blaen ar ôl curo Michael Johnston ar ochr chwith y cwrt cosbi.
Yn ôl y daeth Bangor serch hynny gyda Sion Edwards yn creu argraff oddi ar y fainc. Ei gic gornel ef ddaeth o hyd i ben Simm chwarter awr o’r diwedd i unioni’r sgôr a gwaith da’r asgellwr ar y chwith greodd y drydedd i Les Davies funud yn ddiweddarach hefyd.
Bangor ar y blaen wedi naw deg munud felly ond wnaeth deg dyn Prestatyn ddim rhoi’r ffidl yn y to ac roeddynt yn gyfartal wedi tri munud o’r amser a ganiateir am anafiadau. Manteisiodd Parker ar gamgymeriad amddiffynol Morley cyn curo Idzi i gipio pwynt i’w dîm.
Nid yw’r canlyniad yn newid dim yn y tabl gyda Bangor yn aros yn drydydd a Phrestatyn yn bedwerydd.
Ymateb
Gôl-geidwad Prestatyn a seren y gêm, John Hill-Dunt:
“Mae yna wastad rhywbeth i siarad amdano pan mae’r ddau dîm yma’n cyfarfod. Roedd yna dorf fach dda yma heddiw a gêm dda o bêl droed i roi gwerth am arian iddyn nhw.”
Ac am y ddwy gic o’r smotyn dywedodd y golwr:
“Fe ddigwyddodd yr un peth yn erbyn Caerfyrddin ond fe sgorion nhw’r ddwy. Fe wnes i lwyddo i arbed dwy heddiw ond dipyn o loteri ydi o mewn gwirionedd!”
.
Bangor
Tîm: Idzi, Allen (Jones 70′), Booth, Brownhill, Davies (Hoy 90′) Edwards, Johnston, Mackin, Roberts (Edwards 70′), Simm, Morley
Gôl: Levi Mackin 49′ Chris Simm 75′ Les Davies 76′
Cerdyn Melyn: Brownhill 78’
.
Prestatyn
Tîm: Hill-Dunt, Stones, Gibson, Holmes, Davies, (Evans 90′), Parker, Parkinson, Price, Smyth (Murray 90′), Stephens, Hayes
Goliau: Andy Parkinson 13′ 56′ Michael Parker 90′
Cardiau Melyn: Price 18′, 23′, Holmes 15′
Cerdyn Coch: Price 23’
.
Torf: 418