Wrecsam 3–1 Stockport
Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth bwysig ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn wrth i Stockport ymweld â Wrecsam yn Uwch Gynghrair y Blue Square.
Sgoriodd Joe Clarke yn gynnar ac ychwanegodd Danny Wright a Rob Ogleyby ddwy yn y munudau olaf wrth i Wrecsam ennill yn gyfforddus yn y diwedd.
Rhwydodd Clarke wedi dim ond wyth munud ar ôl i Johnny Hunt ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.
Roedd Stockport yn fygythiad cyson wedi hynny ond bu rhaid aros tan wyth munud o’r diwedd tan y gôl nesaf a Wrecsam gafodd hi, Danny Wright y sgoriwr.
Dilynodd un arall bum munud yn ddiweddarach pan ddaeth Clarke o hyd i Ogleby yn y cwrt cosbi gan alluogi’r eilydd i rwydo’r drydedd.
Roedd digon o amser ar ôl i Connor Jennings sgorio gôl gysur i Stockport ond roedd y Dreigiau wedi gwneud digon i’w hennill hi.
Aros yn ail yn y tabl mae Wrecsam er gwaethaf y fuddugoliaeth a hynny hyd yn oed cyn i Grimsby herio Telford yn hwyrach brynhawn Sadwrn.
.
Wrecsam
Tîm: Maxwell, S. Wright, Ashton, Riley, Westwood, Harris, Keates, Clarke, Hunt (Cieslewicz 67’), D. Wright, Morrell (Ogleby 77’)
Goliau: Clarke 8’, D. Wright 82, Ogleby 88’
.
Stockport
Tîm: O’Donnell, Halls, Newton, Tunnicliffe, Fagbola, Kenyon, Nolan, Mainwaring, Hattersley (Macken 79’), Cullen (Whitehead 79’), Jennings
Gôl: Jennings 90’
.
Torf: 4,206