Scarlets 25–15 Connacht
Roedd cicio cywir y maswr ifanc, Owen Williams, yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Fois y Sosban ar Barc y Scarlets nos Wener.
Connacht oedd yr ymwelwyr yn y RaboDirect Pro12 ond er iddi orffen yn un cais yn erbyn dau o blaid y Gwyddelod, cafodd Williams y gorau o frwydr y cicwyr yn erbyn cyn faswr y Gleision a’r Alban, Dan Parks.
Hanner Cyntaf
Cafodd yr ymwelwyr y dechrau perffaith gyda’r asgellwr, Danie Poolman, yn croesi wedi llai na munud o chwarae.
Methodd Parks y trosiad a chaeodd Williams y bwlch i ddau bwynt wedi pum munud gyda’i gic gosb gyntaf o’r noson. Methodd Parks un wedi hynny cyn i Williams lwyddo eto i roi’r Cymry ar y blaen.
Cafodd Parks well lwc gyda gôl adlam i adfer mantais ei dîm wedi hanner awr ond roedd y Scarlets ar y blaen o bedwar pwynt erbyn hanner amser diolch i chwe phwynt arall o droed Williams.
Ail Hanner
Daeth unig gais y tîm cartref i’r wythwr, Kieran Murphy, wedi 53 munud ac roedd y Scarlets un ar ddeg pwynt ar y blaen yn dilyn dau bwynt ychwanegol Williams.
Ychwanegodd y maswr ddwy gic gosb arall wedi hynny i ymestyn y fantais ym mhellach gan olygu mai cais cysur yn unig oedd ymdrech hwyr yr eilydd brop, Ronan Loughney, i Connacht.
25-15 y sgôr terfynol, canlyniad sydd yn codi’r Scarlets i’r pedwerydd safle yn nhabl y Pro12.
.
Scarlets
Cais: Kieran Murphy 53’
Trosiad: Owen Williams 53’
Ciciau Cosb: Owen Williams 5’, 20’, 36’, 40’, 63’, 72’
.
Connacht
Cais: Danie Poolman 1’, Ronan Loughney 76’
Trosiad: Miah Nikora 76’
Gôl Adlam: Dan Parks 30’