Dreigiau 23–14 Treviso
Tarodd y Dreigiau yn ôl i guro Treviso ar Rodney Parade nos Wener yn dilyn hanner cyntaf gwael yn erbyn yr Eidalwyr yn y RaboDirect Pro12.
Roedd gan yr ymwelwyr fantais iach ar yr egwyl diolch i ddau gais a chicio gwallus y maswr cartref, Steffan Jones. Ond wedi i Tom Prydie gymryd yr awenau oddi ar Jones fe frwydrodd y Dreigiau yn ôl i ennill y gêm gyda dau gais eu hunain yn yr ail hanner.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd yr Eidalwyr ar dân ac roeddynt ar y blaen wedi dim ond chwe munud diolch i gais y canolwr, Gideon La Grange, a throsiad y maswr, Alberto Di Bernardo.
Ychwanegodd yr wythwr, Filippo Giusti, ail gais hanner ffordd trwy’r hanner a hynny ddau funud yn unig wedi iddo ddod i’r cae fel eilydd. Trosiad arall i Di Bernardo ac roedd Treviso ar y blaen o bedwar pwynt ar ddeg.
Fe wnaeth Jones lwyddo i gau’r bwlch gydag un gic gosb ond methodd gyda thri chynnig arall a fyddai wedi gwneud yn sgôr yn dipyn agosach.
Prydie a gymrodd gic olaf yr hanner gan lwyddo i gau’r bwlch i wyth ar yr egwyl.
Ail Hanner
Methodd Steffan Jones eto ar ddechrau’r ail hanner cyn i Ieuan Jones, yr wythwr, gau’r bwlch gyda chais.
Trosodd Prydie hwnnw ac yna, gydag asgellwr dde Treviso, Christian Loamanu, yn y gell gosb, fe fanteisiodd Prydie wrth groesi am gais i roi’r Dreigiau ar y blaen.
Llwyddodd yr asgellwr gyda chynnig arall yn y munudau olaf i atal Treviso rhag cipio hyd yn oed pwynt bonws. Mae’r Dreigiau yn aros naw pwynt y tu ôl i’r Eidalwyr yn nhabl y Pro12 serch hynny, yn yr unfed safle ar ddeg.
.
Dreigiau
Ceisiau: Ieuan Jones 55’, Tom Prydie 68’
Trosiadau: Tom Prydie 55’, 68’
Ciciau Cosb: Steffan Jones 30’, Tom Prydie 40’, 72’
.
Treviso
Ceisiau: Gideon La Grange 6’, Filippo Giusti 25’
Trosiadau: Alberto Di Bernardo 6’, 25’
Cerdyn Melyn: Christian Loamanu 58’