Gleision 11–26 Leinster

Y Gleision oedd yr unig ranbarth o Gymru i golli yn y RaboDirect Pro12 nos Wener wrth i Leinster eu trechu ar Barc yr Arfau.

Cafodd y difrod ei wneud mewn cyfnod o dri munud ar ddiwedd yr hanner cyntaf pan sgoriodd yr ymwelwyr ddau gais.

Hanner Cyntaf

Ciciodd Ian Madigan y Gwyddelod ar y blaen gyda chic gosb gynnar cyn i Rhys Patchell unioni’r sgôr i’r Gleision.

Methodd y maswr ifanc ail gynnig cyn i glo Leinster, Tom Denton, gael ei anfon i’r gell gosb am ddeg munud.

Cyfle da i’r Gleision felly ond yr ymwelwyr yn hytrach a gafodd y pwyntiau nesaf wrth i Madigan adfer y tri phwynt o fantais gydag ail gic gosb toc cyn yr hanner awr.

Yna, â hwythau yn ôl i bymtheg dyn am ddeg munud olaf yr hanner fe ddechreuodd Leinster reoli. Ychwanegodd Madigan gic gosb arall cyn i’r mewnwr, Isaac Boss, groesi am gais cyntaf y gêm.

Tiriodd yr wythwr, Jordi Murphy, yn eiliadau olaf yr hanner hefyd wrth i’r Gwyddelod orffen yr hanner (fel y gwnaeth eu tîm rhyngwladol dafliad carreg i ffwrdd yr wythnos diwethaf) ar y blaen o 23-3.

Ail Hanner

Dechreuodd y Gleision yr ail hanner yn well gyda Jason Tovey yn croesi am gais ond roedd talcen caled yn eu wynebu o hyd wrth i Patchell fethu’r trosiad.

Llwyddodd yntau gyda chic gosb toc cyn yr awr i ddod a’i dîm o fewn dwy sgôr, ond yr ymwelwyr o’i Iwerddon a gafodd y gair olaf wrth i Madigan fygu unrhyw obeithion am wyrth gyda chic gosb arall ddeg munud o’r diwedd.

11-26 y sgôr terfynol, canlyniad sy’n cadw’r Gleision yn wythfed yn nhabl y Pro12.

.

Gleision

Ceisiau: Jason Tovey 52’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 13’, 59’

.

Leinster

Ceisiau: Isaac Boss 37’, Jordi Murphy 40’

Trosiadau: Ian Madigan 37’, 40’

Ciciau Cosb: Ian Madigan 4’, 28’, 32’, 70’

Cerdyn Melyn: Tom Denton 20’