Ulster 12–16 Gweilch
Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth wych yn y RaboDirect Pro12 nos Wener wrth drechu’r tîm ar y brig, Ulster, yn Ravenhill.
Roedd hi’n gêm o safon uchel gyda’r ddau dîm yn amddiffyn yn arwrol. Roedd angen rhywbeth arbennig i’w hennill hi felly a chafwyd hynny pan groesodd y prop, Ryan Bevington, am gais gwych i’r Gweilch chwarter awr o’r diwedd.
Hanner Cyntaf
Y Gweilch a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant yn y deugain munud agoriadol ond llwyddodd Ulster i fanteisio’n well ar eu hymweliadau prin i’r ddau ar hugain.
Ciciodd Matthew Morgan ddwy gic gosb i’r ymwelwyr o Gymru ond llwyddodd Ruan Pienaar gyda thair i’r Gwyddelod.
Y sgôr ar yr egwyl ddim yn adlewyrchiad teg o stori’r hanner cyntaf felly o bosibl ond y Gweilch yn y gêm o hyd, 9-6.
Ail Hanner
Unionodd Morgan y sgôr gyda chic gosb wedi 13 munud o’r ail gyfnod ond dechreuodd Ulster bwyso wedi hynny.
Daliodd amddiffyn y Gweilch yn gryf tan i Morgan Allen gael ei gosbi yn ardal y dacl o flaen y pyst. Cafodd wythwr yr ymwelwyr ei yrru i’r gell gosb am ddeg munud a rhoddodd Stuart Olding wŷr Ulster ar y blaen gyda thri phwynt syml.
Ond llwyddodd y Cymry i gynhyrchu symudiad gorau’r gêm er eu bod lawr i bedwar dyn ar ddeg. Gwrthymosododd yr ymwelwyr hanner hyd y cae gyda Jonathan Spratt a Kahn Fotuali’i cyn i Bevington o bawb redeg y 40 medr olaf at y llinell gais. Dipyn o gais i brop a’r Gweilch bedwar pwynt ar y blaen yn dilyn trosiad Morgan.
Ceisiodd Ulster eto ond daliodd amddiffyn y Gweilch yn gadarn i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy, buddugoliaeth sydd yn eu codi i’r trydydd safle yn nhabl y Pro12, ddeg pwynt y tu ôl i Ulster ar y brig.
Ymateb
Jonathan Humphreys, hyfforddwr blaenwyr y Gweilch:
“Ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n wych, hollol wych! Roedd gennym ni sawl chwaraewr ar goll ond er i lawer o chwaraewyr orfod camu i’r adwy ni chafodd hynny effaith ar y perfformiad.”
Ac am Ryan Bevington, dywedodd cyn fachwr Cymru:
“Os nad fo fydd y prop pen rhydd gorau yn y byd rhyw ddydd fe fydda i’n siomedig, mae ganddo bopeth a heno roedd o’n wych.”
.
Ulster
Ciciau Cosb: Ruan Pienaar 4’, 14’, 33’, Stuart Olding 65’
.
Gweilch
Cais: Ryan Bevington 66’
Trosiad: Matthew Morgan 68’
Ciciau Cosb: Matthew Morgan 9’, 22’, 52’
Cerdyn Melyn: Morgan Allen 64’