Neil Jenkins ar y dde
Yn ôl Neil Jenkins y mae Cymru am droi y drwg yn dda y penwythnos yma yn Ffrainc.
Mae’r cyn-faswr wedi dweud bod hwyliau da yn y garfan ac yn dweud bod y chwaraewyr yn ysu am fynd ar y cae.
‘‘Fe wnaethom ddechrau yn wael yr wythnos diwethaf, ond roedden ni wedi gwella yn yr ail hanner gan chwarae rygbi da. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni gadw’r pwysau a’r Ffrainc gan chwarae hyd nes y chwiban olaf,’’ meddai Jenkins.
Mae Cymru wedi gwneud tri newid i’r pac a chredai Robin McBryde, hyfforddwr cynorthwyol y blaenwyr ei bod yn mynd i fod yn frwydr gyda’r blaenwyr.
‘‘Dw i’n amau dim y bydd Ffrainc yn ceisio cystadlu yn y sgrym a’r llinell. Dyma’r man yr ydym eisiau gwella. Ond gyda Ryan Jones yn y pac, bydd yna profiad ac arweinydd da wrth y llyw,’’ meddai McBryde.