Mae bron i wythnos wedi mynd ers i Gymru golli i’r Gwyddelod ac mae cywilydd perfformiad yr hanner cyntaf yn dal i frifo. Ond rhywun sydd wedi dioddef fwy o embaras a chywilydd na Chymru ac yn sicr fydd wedi bod yn brifo fwyaf ydi Ffrainc ar ôl colli i’r Eidal am yr ail dro mewn tair blynedd. Os doedd taith i Stade de France ddim digon anodd yn barod yn sicr mae o’n galetach rŵan.

Tydi’r un o’r ddau dîm yn gallu cyflawni’r Gamp Lawn erbyn hyn ond mae dal gobaith i ennill y Bencampwriaeth, o ennill y gêm yma. Yn ei hun mae huna yn cynyddu’r pwysau ar y chwaraewyr, ond i chwaraewyr Cymru, wrth ychwanegu’r ffaith bod nhw wedi colli’r wyth prawf diwethaf ac y bu nhw’n colli gafael ar y Bencampwriaeth fydd y pwysau yn aruthrol o uchel.

Os fydd Cymru’n colli, fydd cefnogwyr ffyddlon y Cochion methu cuddiad tu ôl hen ffeithiau, megis Camp Lawn 2012 a Chwpan y Byd 2011, a pherswadio eu hunain bod Cymru dal i fod y dîm da. Tydi’r un tîm da yn mynd â cholli naw gêm yn olynol, dim ots pwy maen nhw’n wrthwynebu. I rwbio’r halen yn y briw mae Cymru wedi llithro i ddegfed ac o dan yr Eidal yn rhestr detholion Y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB).

Ond, tydi ddim rhy hwyr eto, mae yna un cyfle ar ôl i droi’r gornel, mae rhaid curo Ffrainc.

Dim Warburton

Fydd angen wynebu’r her heb y capten Sam Warburton. Er nad ydy Warburton wedi disgleirio i Gymru dros y flwyddyn ddiwethaf, efallai oherwydd nifer o anafiadau, anaml dw i’n sylwi ar unrhyw gamgymeriad difrifol ganddo. O’r tu allan i’r garfan mae o i weld yn berson mae’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr yn ei barchu ac oherwydd hynny, y perfformiadau o’r gorffennol a’r lefel rydan ni gyd yn gwybod mae o’n gallu ei gyrraedd dw i dal i fod yn ffan.

Er dweud hynny mae’r achos i gynnwys Justin Tipuric, sydd yn chwarae yn yr un safle â Warburton, wedi cynyddu. Yn bendant mi oedd Tipuric wedi sefyll allan yn yr ail hanner yn erbyn Iwerddon ac ynghyd a’i gynhwysiad mi wnaeth Cymru wella fel tîm. Tydi wythnos diwethaf ddim yr unig enghraifft o Tipuric yn gwneud argraff, fysa rhywun yn gallu dewis un o hanner dwsin o gemau.

Rhaid cofio ar y llaw arall bod Cymru wedi gwella yn yr ail hanner beth bynnag ac mewn gem agored iawn roedd rhywun yn disgwyl Tipuric i sefyll allan o dan yr amgylchiadau. Amgylchiadau â oedd yn ei siwtio.

Yn lwcus i Robert Howley tydi o ddim yn gorfod pendroni pwy  i ddewis wythnos yma, mae’r dewis wedi ei wneud ar ei ran. Tipuric i ddechrau fel rhif saith.

Os fysa Warburton wedi bod yn holliach a finnau yn dewis y tîm mi fysa rhaid i mi wedi dewis Warburton fel capten ar y flaenasgell ochr dywyll ynghyd a Tipuric ar yr ochr agored.

Fydd y wir gur pen yn cychwyn pan fydd Dan Lydiate, Chwaraewr y Chwe Gwlad 2012, yn iach ac yn barod i chwarae. O leaf mae cael tri blaenasgellwr o’r safon uchaf yn y garfan yn fath o gur pen mae hyfforddwr yn hoffi ei gael ond un fydd yn gweld Warburton yn disgyn i’r fainc.

Tactegau

Un peth fydd rhaid newid wythnos yma yw arddull y chwarae.

Tydi meddwl bod ni am fwlio timau efo maint corfforol ein cefnwyr ni ddim yn gweithio ddim mwy. Do mi oedd o llynedd a doedd neb yn gallu ein stopio.

Erbyn hyn mae pawb yn gwybod be i ddisgwyl, fawr ddim o drafod y bêl a dim ond rhedeg yn syth lawr gyddfau’r gwrthwynebwyr a thrio taro nhw ar ei pen ôl.

Mae rygbi yn gêm lle mae pobl yn gwrthdaro a’i gilydd ac mae’n amhosib osgoi huna yn llwyr. Fyswn i’n cytuno mai’r tîm sydd yn ennill y gwrthdrawiadau yna sydd amlaf yn ennill y gêm. Ond, pan mae tîm yn gwybod dim ond am y gwrthdaro mae’r gwrthwynebwyr yn edrych amdano, mae’n hawdd paratoi i’w amddiffyn yn unigol ac yna mewn tîm. Yn enwedig pan fydd Ffrainc efo canolwyr yr un mor fawr â Chymru , megis Mathieu Bastareaud. Os tyda chi heb glywed amdano yn y gorffenol yr unig beth yda chi angen ei wybod ydi bod o fel tanc!!!

Pan ges i fy nysgu i chwarae rygbi y gwrthdaro oedd y peth olaf oedd chwaraewr i fod i ddewis fel opsiwn a ddim y cyntaf. Mi oedd unai pasio, ochr gamu, rhedeg o amgylch y gwrthwynebydd ac yn y blaen o hyd yn dod gyntaf. Os doedd y rhain ddim yn bosib wedyn trio fy ngorau i daro hwnnw oedd yn trio fy nhaclo i mewn i wythnos nesa.

Dyna fydd Cymru angen wneud, dechrau chwarae rygbi fel mae o fod i gael ei chwarae ac fel yr oeddem yn y gorffenol a ddim y tactegau oes yr ogof.

Pwy sydd am ennill?

Mae nghalon i o hyd yn dweud Cymru i ennill pob gem, yn enwedig efo finnau newydd adfyw atgofion plentyndod wrth wylio ‘Scrum V Classics’ a gweld Cymru yn curo Ffrainc oddi cartref o 34 i 33 nol yn 1999, y fuddugoliaeth gyntaf yn Stade de France ar un cyntaf yn Ffrainc ers 1975. Mae fy mhen ar y llaw arall, yn anffodus, yn dweud Ffrainc.

Gobeithio fydda i’n anghywir.