Mae cyfreithwyr ar ran y corff hawliau darlledu Eos yn trafod cytundeb dros dro gyda’r BBC.
Fe fyddai hynny’n golygu bod Radio Cymru yn cael yr hawl i chwarae tua 30,000 o ganeuon Cymraeg, nes bod cytundeb parhaol.
Does dim gwybodaeth eto beth fyddai’r telerau tros dro ac mae’r corff yn dal i ddweud eu bod yn siomedig gydag agwedd y Gorfforaeth, sy’n paratoi ar gyfer gwrandawiad mewn Tribiwnlys.
Trwydded dros dro
Mewn cyfarfod neithiwr, fe gytunodd aelodau Eos yn y Gogledd y dylai cyfreithwyr gael yr hawl i drafod gyda’r BBC er mwyn “rhoi’r gerddoriaeth yn ôl” tros dro.
Mae’n golygu y bydd eu cyfreithwyr yn cysylltu gyda’r BBC i drafod rhoi trwydded dros dro i roi hawl i chwarae’r gerddoriaeth.
Roedd y cyfarfod neithiwr yn dilyn un tebyg yn y De yn gynharach yn yr wythnos, pan gafwyd yr un penderfyniad.
Yn ôl y trefnwyr, roedd cyfanswm o 80 o aelodau wedi cymryd rhan yn y cyfarfodydd – tua chwarter y cyfanswm.
Tri cham posib
Mae’r datblygiad diweddara’n golygu fod tri cham posib bellach yn yr ymgais i gael cytundeb terfynol:
- Trwydded dros dro tra bod y trafodaethau’n parhau.
- Proses gymodi – er nad oes sicrwydd o hynny eto.
- Os bydd hynny’n methu, gwrandawiad mewn Tribiwnlys.
‘Pryderu am yr effaith’
Yn ôl Dafydd Roberts ar ran Eos, un rheswm am y penderfyniad oedd pryder y gallai’r gwaharddiad ar ganeuon amharu ar y sylw i ddigwyddiadau mawr fel Cân i Gymru ac Eisteddfod yr Urdd.
“Mae Eos yn bryderus iawn am y niwed sy’n cael ei wneud i Radio Cymru,” meddai. “Efo Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro, er enghraifft, rydan ni’n poeni na fyddai’r cystadleuwyr yn cael yr un sylw ag arfer.
“Mi fasan ni’n hapus iawn i gael y gerddoriaeth yn ôl rhag gwneud niwed i Radio Cymru a phrif gystadlaethau’r flwyddyn. Mae’r rheiny’n bwysig i ni, fel diwylliant ac fel cenedl, a dydan ni ddim eisio amharu ar hynny.”
Roedd yn cydnabod bod yr anghytundeb yn gwneud drwg i’r cerddorion hefyd – “mae’n gwneud drwg i bawb”, meddai – ond yn pwysleisio nad oedd ganddyn nhw ffrae gyda Radio Cymru. Trafod gyda’r BBC yn ganolog y maen nhw.
Roedd y mater yn nwylo cyfreithwyr, meddai, oherwydd fod y BBC yn sôn am fynd at Dribiwnlys – “rydan ni’n siomedig iawn eu bod nhw wedi mynd i lawr y llwybr yna”.