Mae grŵp hawliau anifeiliaid wedi beirniadu’r hyn wysgodd y gantores Beyoncé ar gyfer y Super Bowl yr wythnos hon.

Roedd y wisg yn gyfuniad o groen nadroedd a madfallod.

Beyoncé oedd yn canu’r anthem cyn yr ornest bêl-droed Americanaidd rhwng y San Francisco 49ers a’r Baltimore Ravens.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran PETA: “Rydym yn tybio pe bai Beyoncé yn edrych ar ein fideos, fyddai hi fwy na thebyg ddim am gael ei gweld eto mewn unrhyw beth wedi’i wneud o nadroedd, madfallod, cwningod neu anifeiliaid eraill a fu farw mewn modd poenus.

“Mae ffasiwn heddiw yn anelu am opsiynau fegan dyngarol ac roedd gwisg Super Bowl Beyoncé wedi methu yn yr ystyr hynny.”

Cafodd y wisg ei dylunio gan Rubin Singer.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r gantores gael cerydd gan y grŵp.

Cafodd ei beirniadu ychydig wythnosau yn ôl am wisgo côt ffwr yn seremoni arlywyddol Barack Obama.