Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi galw ar gefnogwyr i ymgyrchu yn erbyn awgrym y gallai roi’r gorau i deithio o le I le bob blwyddyn.
Mae Cyfarwyddwr y Brifwyl, Elfed Roberts, wedi sgrifennu at “garedigion” yr Eisteddfod yn gofyn iddyn nhw anfon llythyrau at banel y mae’r Llywodraeth wedi ei sefydlu i ystyried dyfodol yr ŵyl.
Yn ôl Tîm Rheoli’r Eisteddfod, fe fyddai rhoi’r gorau I deithio bob blwyddyn “yn drychineb y nein cyfnod ni”.
Dau gartref sefydlog
Mae’r panel, dan gadeiryddiaeth y darlledwr Roy Noble, yn ystyried y posibilrwydd o gael dau safle sefydlog i’r Eisteddfod i roi cartre’ iddi am ddwy flynedd ym mhob pedair.
Mae hynny, meddai’r llythyr, yn “pryderu” trefnwyr yr Eisteddfod “yn fawr”.
Maen nhw’n dadlau bod yr Eisteddfod yn gwneud “gwaith amhrisiadwy yn gwarchod, cynnal a hybu’r iaith” a bod hynny ar ei gryfa’ pan fydd y Brifwyl yn teithio.
Fe gafodd y panel ei sefydlu gan y Gweinidog Addysg a Iaith, Leighton Andrews, gyda’r awgrym fod rhaid i’r Eisteddfod newid er mwyn denu rhagor o ymwelwyr.
Dyfyniadau o’r llythyr
“Yn ein barn ni proses ac nid digwyddiad yw’r Eisteddfod ac mae’r broses, sy’n parhau dros ddwy flynedd yn yr ardal leol yn rhoi chwistrelliad o Gymreictod ac o’r Gymraeg i’r fro..
“ Nid yn unig y byddai taith y Brifwyl yn cael ei haneru, ac felly ei dylanwad a’i chyfraniad, ond mae perygl gwirioneddol y byddai ffyddloniaid presennol yr Eisteddfod, sy’n mynychu pob Prifwyl yn rheolaidd, yn diflasu ar ymweld â’r un lleoliad yn rhy aml.
“Nid oes unrhyw ddigwyddiad na phrosiect arall a all roi’r fath hwb i ardal na’r fath broffil i’r Gymraeg a’n diwylliant, ac a all ddenu tua 150,000 o ymwelwyr i ran wahanol o’n gwlad bob blwyddyn gan roi hwb economaidd gwirioneddol i ardal mewn cyfnod mor hir o gyni economaidd.