Mae S4C wedi dweud eu bod nhw’n croesawu awgrymiadau a syniadau gan sefydliadau ar y ffordd ymlaen, wrth iddyn nhw ystyried symud rhai o wasanaethau’r sianel o Gaerdydd.
Daw’r gwahoddiad yn rhan o ymgynghoriad i weld sut gall S4C gydweithio a datganoli swyddi i ardaloedd eraill yng Nghymru.
Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis: “Mae’r gwahoddiad yma yn un agored iawn i unrhyw rai sy’n teimlo bod ganddyn nhw syniad da i’w gynnig.
“Mae’n amlwg yn barod bod gan nifer o fudiadau, sefydliadau, cwmnïau ac awdurdodau ddiddordeb mawr mewn cydweithio gyda ni wrth i ni ystyried adleoli ac rydan ni’n agored i unrhyw syniadau.
“Ein dyhead yn S4C yw ceisio sicrhau bod y manteision economaidd sy’n deillio o waith S4C yn cael eu teimlo ar draws Cymru, ac mae hynny’n wir hefyd am effaith a dylanwad S4C ar yr iaith a diwylliant.
“Rydan ni’n gwneud llawer o waith allan yn ein cymunedau ar hyn o bryd, ac yn teimlo bod angen edrych ar y posibilrwydd o symud peth o waith S4C i rannau eraill o Gymru os yw’n ymarferol i wneud hynny.”
Rhagor am y stori hon yn Golwg yr wythnos hon.