Ian Watkins, prif leisydd y grwp Lostprophets
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i Heddlu De Cymru yn dilyn arestio’r canwr roc Ian Watkins am gynllwyn honedig i dreisio babi.
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn ystyried a oedd Heddlu De Cymru wedi “methu a chymryd camau priodol a phrydlon” i wybodaeth roedden nhw wedi ei dderbyn am brif leisydd y grŵp Lostprophets.
Cafodd Watkins, 35, o Bontypridd, ei arestio ym mis Rhagfyr ynghyd a dwy ddynes arall.
Mae wedi ei gyhuddo o gynllwynio i dreisio plentyn o dan 13 oed a phump o gyhuddiadau eraill o gam-drin rhywiol.
Dywedodd Comisiynydd yr IPCC yng Nghymru Tom Davies bod mater wedi cael ei gyfeirio atyn nhw gan Heddlu De Cymru ar 25 Ionawr, 2013 yn ymwneud â Ian Watkins.
“Yn dilyn asesiad trylwyr rwyf wedi penderfynu cynnal ymchwiliad annibynnol,” meddai Tom Davies.
“Fe fydd ein hymchwiliad yn ceisio darganfod a oedd Heddlu De Cymru wedi methu a chymryd camau priodol a phrydlon mewn perthynas â gwybodaeth ddaeth i law cyn i Ian Watkins gael ei arestio.
“Rydym yn ymwybodol bod pedwar o heddluoedd wedi darparu gwybodaeth i Heddlu De Cymru, ond gan fod achos troseddol yn mynd rhagddi, fe fyddai’n amhriodol cyhoeddi rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.”
Mae disgwyl i Watkins ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd i gyflwyno ei ble ar 11 Mawrth.
Mae wedi ei gyhuddo ynghyd a dwy ddynes arall, 20 a 24 oed, o Doncaster a Bedford, na ellir cyhoeddi eu henwau am resymau cyfreithiol.