Fe bleidleisiodd Aelodau Seneddol o blaid deddf a fyddai’n rhoi’r hawl i gyplau hoyw briodi heno, ond mae’r dadlau ynglŷn â’r mesur wedi achosi rhwyg o fewn y Blaid Geidwadol.
Dywedodd y Prif Weinidog bod y canlyniad yn “gam ymlaen i’n gwlad” ar ôl i 400 o ASau bleidleisio o blaid y mesur, a 175 yn erbyn.
Er gwaethaf cefnogaeth Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, roedd 136 o ASau Ceidwadol wedi manteisio ar y bleidlais rydd i ddangos eu gwrthwynebiad i’r mesur.
Pleidleisiodd pob AS Ceidwadol o Gymru yn erbyn, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru David Jones.
Wrth ymateb i’r canlyniad ar Twitter dywedodd David Cameron: “Mae ’na ddaliadau cryf ar y ddwy ochr ond rwy’n credu bod y ffaith bod ASau wedi pleidleisio o blaid rhoi’r hawl i bobl hoyw briodi yn gam ymlaen i’n gwlad.”
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband ei fod yn “ddiwrnod balch” – er i 22 o’i ASau bleidleisio yn erbyn y mesur.
Yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg roedd y canlyniad ar yr ail ddarlleniad yn “garreg filltir”.
Daeth y canlyniad wedi chwe awr o ddadlau ffyrnig yn Nhŷ’r Cyffredin ynglŷn â’r mesur.
Roedd yr Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller wedi dweud y byddai caniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi yn creu “lle tecach i fyw,” ond roedd y cyn weinidog amddiffyn Syr Gerald Howarth wedi dadlau nad oedd y cynlluniau wedi eu cynnwys ym maniffesto’r blaid yn etholiad 2010.