Fe fydd caniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi yn creu “lle tecach i fyw,” clywodd Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw cyn y bleidlais ar y mater dadleuol.

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller yn mynnu y bydd cynlluniau’r Llywodraeth yn rhoi mwy o gydraddoldeb i gyplau hoyw.

Ond mae’r mater wedi achosi rhwyg o fewn y Blaid Geidwadol a dywedodd y cyn weinidog amddiffyn Syr Gerald Howarth nad oedd y cynlluniau wedi eu cynnwys ym maniffesto’r blaid a bod David Cameron wedi dweud ar y pryd nad oedd “ganddo gynlluniau” i gyflwyno’r mesur.

Mae disgwyl i fwyafrif o’r Aelodau Seneddol Ceidwadol, gan gynnwys bob un o wyth AS Ceidwadol Cymru, bleidleisio yn erbyn y Mesur Priodasau heno.

Bydd David Cameron yn ymuno gydag Aelodau Seneddol Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru ac yn pleidleisio o blaid.

“Dydw i ddim yn credu mai rôl y llywodraeth yw dweud wrth bobl beth i’w gredu ond rydw i yn meddwl bod gan y Senedd a’r wladwriaeth gyfrifoldeb i drin pobl yn deg,” meddai Maria Miller.

Hain o blaid, Murphy yn erbyn

Mae cyn-ysgrifennydd Cymru Peter Hain wedi datgan ei fwriad i bleidleisio o blaid y Bil ond mae cyn-ysgrifennydd gwladol arall, Paul Murphy, wedi dweud ei fod am bleidleisio yn erbyn am ei fod yn gwrthwynebu “ail-ddiffinio priodas.”

Mae sôn y bydd oddeutu 25 AS Llafur yn gwrthwynebu’r Bil pan fydd y bleidlais rydd heno, ond mae disgwyl i’r Bil gaei ei basio er gwaethaf gwrthwynebiad Eglwys Loegr ac Archesgob newydd Caergaint, Justin Welby.

Yn ôl y Bil byddai’n anghyfreithlon i’r Eglwys yng Nghymru briodi cyplau hoyw, ond mae modd i Gorff Llywodraethol yr eglwys wneud cais i newid hynny heb yr angen am ddeddf bellach.