Bydd baner yr enfys yn cael ei chyhwfan uwchben adeiladau’r Cynulliad yng Nghaerdydd a Bae Colwyn er mwyn nodi mis hanes pobol hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Bydd y faner yn cael ei chyhwfan o ddydd Iau ymlaen, a dywed y Cynulliad Cenedlaethol fod hyn yn gydnabyddiaeth bellach o waith y Cynulliad yn y maes.

Fis diwethaf roedd mudiad Stonewall Cymru wedi cynnwys y Cynulliad Cenedlaethol ymhlith y pum cyflogwr mwyaf ystyriol o bobol hoyw yng Nghymru, wrth gyhoeddi’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle.

Yn ôl Sandy Mewies AC, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros faterion cydraddoldeb yn y Cynulliad: “Mae Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn dathlu amrywiaeth a lluosedd diwylliannol, sy’n rhywbeth y byddwn yn ymdrechu i’w wneud yn y Cynulliad.”

Drwy gydol mis Chwefror mae’r Senedd yn cynnal arddangosfa o arwyr hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Heno yn San Steffan mae Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar y Bil Priodasau a fyddai’n rhoi’r hawl am y tro cyntaf i gyplau o’r un rhyw briodi.