Mae trydydd arolwg ar sefyllfa’r asbestos yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn ar y gweill ar ôl i ddau arolwg ddod i gasgliadau gwahanol.
Ym mis Tachwedd daeth arolwg gan gwmni preifat i’r casgliad fod na “beryg sylweddol” o achos yr asbestos yn adeiladau’r ysgol.
Ond mae arolwg gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi dod i’r casgliad fod y peryg asbestos yn yr ysgol yn “isel iawn.”
Yn y cyfamser mae’r 900 o ddisgyblion yn cael eu haddysgu yng Nglyn Ebwy ar hen safle Coleg Gwent, ac mae Cyngor Sir Caerffili wedi comisiynu arolwg arall a fydd yn cael ei gwblhau ymhen tair wythnos.
Bydd y Cyngor yn penderfynu ar y camau nesaf ar ôl derbyn adroddiad yr arolwg a dywedodd cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol, Gary Thomas, eu bod nhw’n cydweithio gyda’r Cyngor ar gynllunio’r camau nesaf hynny.
Grŵp trawsbleidiol ar asbestos
Heno mae grŵp trawsbleidiol yn y Cynulliad yn cwrdd am y tro cyntaf ers 2010 i drafod asbestos yn ysgolion Cymru.
Mae disgwyl i’r grŵp, dan gadeiryddiaeth y Ceidwadwr Nick Ramsay, alw am sefydlu cofrestr ar-lein fel bod y cyhoedd yn medru gweld beth yw sefyllfa’r asbestos yn eu hysgol leol, a’r hyn sy’n cael ei wneud i’w reoli.
Ym mis Hydref gofynnodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews i awdurdodau lleol Cymru adrodd iddo ar sefyllfa asbestos yn eu hysgolion nhw, a bydd y grŵp yn clywed am yr hyn a dderbyniodd yn ôl.