Bydd gwerthwyr a chyflenwyr cwmnïau bwyd mawr yn cyfarfod â’r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) heddiw i drafod sut i atal bwydydd rhag cael eu heintio a chael eu cynnwys yn y gadwyn fwyd.

Roedd yr FSA wedi galw am gyfarfod yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau lle’r oedd cynnyrch bwyd wedi ei labelu’n anghywir neu fod olion o fwydydd eraill wedi eu darganfod mewn cynnyrch, fel yr achosion o gig ceffyl mewn byrgyrs cig eidion.

Ddoe, fe gyhoeddwyd enw cwmni oedd wedi darparu cig halal oedd yn cynnwys olion o gig porc.

Mae bwyta porc yn mynd yn groes i egwyddorion y ffydd Fwslimaidd.

Mae cwmni McColgan Quality Foods yn cyflenwi bwyd ar gyfer carchardai yng Ngogledd Iwerddon, ac mae cynnyrch halal y cwmni bellach wedi cael ei dynnu nôl.

Fis yn ôl, cafodd olion cig ceffyl eu darganfod mewn byrgyrs yn rhai o brif archfarchnadoedd Prydain, gan gynnwys Tesco, Aldi a Lidl.

Mae’r helynt wedi codi cwestiynau ynghylch effeithlonrwydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Dywedodd llefarydd ar ran y corff wrth y BBC fod dyletswydd “ar bob busnes fwyd i sicrhau bod y bwyd maen nhw’n ei werthu’n cynnwys yr hyn sydd ar y label”.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd arall: “Mae gan bobl yr hawl i ddisgwyl bod y bwyd maen nhw’n ei fwyta wedi’i ddisgrifio’n gywir.”

‘Angen newid y gyfraith o ran labelu’

Dywedodd cadeirydd Hybu Cig Cymru, Dai Davies: “Mae’n rhaid i’r siopau a’r cyflenwyr gymryd cyfrifoldeb am y labelu.

“Pan fydd cynnyrch yn cael ei fewnforio, mae’n anodd ei blismona, yn enwedig bwyd sydd wedi’i brosesu.

“Mae angen newid y gyfraith o ran labelu, yn enwedig pan fod gyda chi peis a byrgyrs lle mae’r cynnyrch crai yn dod o’r tu allan. Mae’r bwyd wedi’i labelu fel bwyd o’r wlad yma, ond o dramor mae’r cynnyrch yn dod yn y lle cyntaf.

“Mae angen gwybod o ble ddaeth y cynnyrch i ddechrau, ac mae’n anodd plismona cadwyn fwyd hir gyda chynnyrch sy’n dod o’r tu allan.”