Cymru 22–30 Iwerddon
Iwerddon aeth â hi yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn, er i Gymru frwydro’n ôl yn ddewr yn yr ail hanner.
Roedd y tîm cartref yn warthus yn yr hanner cyntaf a chawsant eu cosbi gan y Gwyddelod, ac er i’r Cochion ddeffro yn yr hanner awr olaf rhy ychydig rhy hwyr oedd ceisiau Cuthbert, Halfpenny a Mitchell.
Hanner Cyntaf
Yr ymwelwyr a ddechreuodd orau a doedd fawr o syndod pan sgoriodd Simon Zebo y cais agoriadol wedi deg munud yn dilyn bylchiad da Brian O’Driscoll.
Llwyddodd Jonathan Sexton gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd i roi deg pwynt o fantais i’r Gwyddelod hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.
Ymestynnwyd y fantais honno’n fuan wedyn pan sgoriodd y prop, Cian Healy, ail gais y gêm. Tarodd Rory Best gic Dan Biggar i lawr, dangosodd Zebo sgiliau pêl droed oedd yn fwy fel Zico na Zebo a chroesodd Healy dros y gwyngalch.
Trosodd Sexton unwaith eto cyn ychwanegu tri phwynt arall hefyd i ymestyn y fantais i ugain pwynt. Daeth pwyntiau cyntaf Cymru o droed Leigh Halfpenny yn fuan wedyn ac er i’r tîm cartref orffen yr hanner yn well, Sexton a gafodd y gair olaf wrth iddo adfer mantais ugain pwynt ei dîm gyda chic olaf yr hanner.
Ail Hanner
Roedd rhaid i Gymru ddechrau’r ail hanner yn gryf felly ond y Gwyddelod a wnaeth hynny wrth i’r bytholwyrdd, O’Driscoll, groesi wedi dim ond dau funud. Plymiodd y canolwr drosodd o fôn y ryc diolch i amddiffyn gwan y crysau coch, 30-3 i’r ymwelwyr yn dilyn trosiad Sexton.
Daeth Justin Tipuric i’r cae yn syth wedi hynny a gwnaeth y blaenasgellwr argraff ysgubol. Roedd ei gap glas i’w weld ym mhob man ac roedd egni newydd yn chwarae’r Cymry.
Yn dilyn sawl munud o bwyso fe holltodd Alex Cuthbert trwy’r amddiffyn i roi llygedyn o obaith i’w dîm, a thyfodd y llygedyn hwnnw pan ddanfonwyd Best i’r gell gosb am ddeg munud.
Manteisiodd Cymru’n syth gydag ail gais – llinell tri dyn ar ddeg yn tynnu amddiffyn Iwerddon i’r gornel chwith ac Halfpenny’n croesi ar yr asgell dde. Methodd y cefnwr y trosiad anodd ond roedd ei dîm o fewn pymtheg pwynt gyda chwarter y gêm ar ôl.
Daeth cyfleoedd eraill i Gymru ond ceisiodd Cuthbert a George North fynd eu hunain pan fyddai pas wedi bod yn well opsiwn.
Dim ond un tîm oedd ynddi ond roedd y cloc yn erbyn Cymru ac er i’r eilydd brop, Craig Mitchell, groesi yn y munudau olaf tra’r oedd mewnwr Iwerddon, Conor Murray, yn y gell gosb, rhy ychydig rhy hwyr oedd yr ymdrech, 22-30 y sgôr terfynol.
Ymateb
Mewnwr Cymru, Mike Phillips:
“Chawsom ni ddim dechrau da i’r gêm, gormod o gamgymeriadau a gormod o giciau cosb. Grêt yn yr ail hanner ond gormod i’w wneud erbyn hynny.”
“Ni’n teimlo’n eithaf trist nawr ond rhaid codi’n penau a mynd draw i Ffrainc yn hyderus iawn ac yn gobeithio ennill.”
.
Cymru
Ceisiau: Alex Cuthbert 48’, Leigh Halfpenny 59’, Craig Mitchell 76’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 50’, 77’
Cic Gosb: Leigh Halfpenny 34’
.
Iwerddon
Ceisiau: Simon Zebo 11’, Cian Healy 24’, Brian O’Driscoll 43’
Trosiadau: Jonathan Sexton 12’, 25’, 44’
Ciciau Cosb: Jonathan Sexton 21’, 28’
Cardiau Melyn: Rory Best 58’, Conor Murray 71’