Gleision 10–6 Gwyddelod Llundain
Cafodd y Cymry ddechrau da i’r penwythnos ar y caeau rygbi yn erbyn y Gwyddelod nos Wener, Gwyddelod Llundain hynny yw yn achos y Gleision. Hwy oedd yr ymwelwyr i Barc yr Arfau yng nghystadleuaeth y Cwpan LV a’r tîm cartref aeth â hi mewn gêm agos.
Rhoddodd Tom Homer yr ymwelwyr ar y blaen gyda chic gosb hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ond roedd y Gleision ar y blaen erbyn yr egwyl diolch i gais y canolwr, Gavin Evans, a throsiad Rhys Patchell.
Caeodd Homer y bwlch i un pwynt gydag ail gic gosb toc cyn yr awr ond Patchell a gafodd y gair olaf wrth i’r maswr ifanc gicio tri phwynt arall i’r rhanbarth o Gymru ddeg munud o’r diwedd.
Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision i’r trydydd safle yng ngrŵp 2.
Buddugoliaeth i’r Cymry Ifanc Hefyd
Roedd buddugoliaeth i dîm Cymru dan ugain yn erbyn Iwerddon ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, nos Wener hefyd.
Dion Jones sgoriodd unig gais y Cymry ac ar ôl dechrau digon sigledig gyda’i gicio, fe drosodd Sam Davies bedair cic gosb hefyd wrth i’r tîm cartref ennill o 17-15.
.
Gleision
Cais: Gavin Evans 33’
Trosiad: Rhys Patchell 33’
Cic Gosb: Rhys Patchell 69’
.
Gwyddelod Llundain
Ciciau Cosb: Tom Homer 20’ 55’