Fe fydd gemau Uwch Gynghrair Cymru yfory yn penderfynu pwy fydd y chweched clwb i gael ymuno gyda’r Seintiau Newydd, Airbus UK, Prestatyn, Bangor a Phort Talbot yn hanner ucha’r gynghrair.

Y chwech uchaf fydd yn chwarae ei gilydd gartref ac i ffwrdd er mwyn cystadlu am y brif dlws a’r cyfle i herio timoedd gorau yn Ewrop yng Nghyngrair y Pencampwyr.

Ar y funud mae Cei Connah, Caerfyrddin a Llanelli ar 27 pwynt yr un, tra bo’r Bala, y Drenewydd ac Afan Lido a’r 26 o bwyntiau yr un.  Mae gan y chwech tîm yma gyfle yfory i fod yn rhan ucha’r gynghrair.

Airbus UK v Afan Lido
Bala v Cei Connah
Bangor v Port Talbot
Caerfyrddin v Drenewydd
Y Seintiau Newydd v Aberystwyth