Mae Radio Cymru wedi colli 9,000 o’u gwrandawyr yn y tri mis hyd at fis Rhagfyr o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yn ôl ffigyrau gwrando diweddaraf y diwydiant darlledu.

Mae canlyniadau arolwg diweddaraf cwmni RAJAR yn cynnwys tri mis yr amserlen newydd gafodd ei lansio ym mis Medi’r llynedd. Mae’n dangos bod 125,000 o bobl yn gwrando ar yr orsaf bob wythnos.

Ond mae pobl yn parhau i wrando ar Radio Cymru am 10.9 awr yr wythnos ar gyfartaledd, ac mae’r gyfradd o wrandawyr ymysg siaradwyr Cymraeg yn 18.7%.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn awgrymu bod gwrandawyr Radio Wales hefyd wedi gostwng 32,000 yn y flwyddyn ddiwethaf i 436,000.

Ond roedd gorsafoedd masnachol Cymru wedi gwneud yn well gyda ffigyrau gwrando Real Radio yn codi o 455,000 i 510,000 ac fe welodd Radio Ceredigion gynnydd o 8,000 i 19,000.

Roedd ffigyrau gorsaf Heart FM yn y gogledd hefyd wedi codi o 190,000 i 244,000.