Western Mail
Mae prif ohebydd y Western Mail wedi dweud y bydd mwy o ddeunydd Prydeinig ym mhapurau Trinity Mirror yn dilyn penderfyniad i fwydo papurau’r cwmni yng Nghymru gyda deunydd o ganolfan yn Lerpwl.
Yn ôl Martin Shipton bydd llai o ddeunydd Cymreig mewn papurau megis y Western Mail a’r South Wales Echo a mwy o straeon Prydeinig.
Mae Trinity Mirror am ganoli adnoddau a chael gwared a 16 o swyddi o fewn Media Wales yn ne Cymru a 4 yn y Daily Post yn y gogledd wrth i bwyslais y cwmni symud o’r wasg brint i’r wasg ddigidol.
‘Colli newyddiaduraeth benodedig Gymreig’
Mae gwleidyddion o fewn y Cynulliad wedi mynegi pryder am effaith y penderfyniad ar ddemocratiaeth a hunaniaeth Cymru.
“Mae papurau fel y Western Mail yn rhan o wead Cymru ac mae erydu araf y platfform pwysig hwn ar gyfer newyddiaduraeth benodedig Gymreig yn ofid i ni gyd,” meddai Ken Skates AC o’r Blaid Lafur.
Yn ôl Suzy Davies AC o’r Ceidwadwyr mae gan y toriadau “oblygiadau difrifol i’r modd mae creu deddfau yn y Cynulliad yn cael ei adrodd ac mae’n bygwth creu diffyg democrataidd.”
Mae Alun Ffred Jones o Blaid Cymru hefyd yn pryderu na fydd digon o graffu ac adrodd.
“Mae’n hanfodol i unrhyw ddemocratiaeth feddu ar wasg gref, gadarn a lluosog i graffu ar bob cam o’i heiddo. Ar hyn o bryd, nid yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn destun craffu fel y dylai fod, ac mae ein democratiaeth yn dioddef o’r herwydd,” meddai.
Mynegodd bryder hefyd y bydd deunydd cyffredin Prydeinig yn anwybyddu’r ffaith fod materion wedi eu datganoli yng Nghymru.
“Os bydd erthygl ar iechyd yn cael ei hysgrifennu yn Lloegr, a fydd yn ystyried y ffaith fod cyfrifoldeb dros y GIG wedi ei ddatganoli i Gymru?
“Nid yw hyn yn gwneud synnwyr o gwbl, ac eithrio, efallai, i gyfrifyddion y cwmnïau cyfryngau enfawr nad ydynt yn deall dim am y diwydiant papurau newydd lleol ac nad oes ganddynt ddiddordeb o gwbl yn ei amddiffyn.”