Mae’r ymchwiliad yn parhau i achos damwain angheuol ar ffordd yr A483 ger Rhydaman brynhawn ddoe.

Cafodd gyrrwr car ei ladd yn y fan a’r lle ar ôl bod mewn gwrthdrawiad â bws oedd yn cludo tua 30 o fyfyrwyr o gampws Coleg Sir Gâr yn Rhydaman i gampws arall y coleg yn Llanelli.

Digwyddodd y ddamwain am 4.21pm ddoe rhwng Pont Abraham a chyffordd Llanedi.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys y bydd y broses ffurfiol o adnabod y gyrrwr yn digwydd y prynhawn yma.

Cafodd 12 o fyfyrwyr eu cludo i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli ac Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin. Cawson nhw eu trin am fân anafiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y coleg eu bod nhw’n parhau i gynnig cyngor a chefnogaeth i’r myfyrwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y ddamwain.

Ail-agorodd yr A483 am 4.15am y bore yma.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth.