Mae’r Dirprwy Weinidog Sgiliau wedi cyhoeddi heddiw y bydd cymhwyster TGAU yn parhau yng Nghymru, yn groes i’r drefn yn Lloegr.

Fe fydd y Safon Uwch hefyd yn parhau a bydd y Fagloriaeth Gymreig yn cael ei hymestyn, meddai Jeff Cuthbert AC heddiw.

Ym mis Tachwedd roedd adroddiad annibynnol ar gymwysterau disgyblion ysgol Cymru wedi argymell ymestyn y Fagloriaeth Gymreig a chreu corff cymwysterau newydd i Gymru.

“Rydyn ni’n derbyn holl argymhellion yr Adolygiad, fwy neu lai,” meddai Jeff Cuthbert.

Mae’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews eisoes wedi cytuno i sefydlu Cymwysterau Cymru, corff newydd i reoleiddio a sicrhau ansawdd cymwysterau disgyblion Cymru.

Yn Lloegr mae’r Ysgrifennydd Addysg Michael Gove wedi cyhoeddi cynllun i gael gwared ar TGAU a sefydlu cymhwyster newydd, y Fagloriaeth Seisnig.

Bagloriaeth fwy trwyadl

“Rydyn ni’n mynd i gadw arholiadau TGAU a Safon Uwch,” meddai Jeff Cuthbert.

“Lle bo angen, byddwn ni’n cryfhau ac yn gwella’r rhain, ond yn y bôn mae gyda ni hyder yn y cymwysterau hyn sydd wedi’u hen sefydlu, ac sy’n cael eu cydnabod ledled y byd.”

Dywedodd Jeff Cuthbert y bydd Bagloriaeth “ddiwygiedig, fwy trwyadl” yn dechrau o fis Medi 2015, a bod yr adroddiad yn nodi fod cefnogaeth glir iddi.

Yn 2015 bydd arholiadau TGAU newydd ar gyfer Cymraeg Iaith Gyntaf a Saesneg Iaith, yn ogystal â dau arholiad TGAU newydd ar gyfer rhifedd a thechnegau mathemategol.

Undeb yn fodlon

Mae undeb y prifathrawon, NAHT Cymru, wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw.

“Mae cadw TGAU a Safon Uwch yn gam synhwyrol,” meddai Anna Brychan, Cyfarwyddwr yr Undeb.

“Mae’r adroddiad yn gosod llwybr gwahanol i Gymru dros y blynyddoedd nesaf ac mae’r gwahaniaethau gyda Lloegr yn fwy amlwg. Rydym ni’n hapus gyda hynna, nid fel diwedd yn ei hun ond o achos bod gan ein haelodau yma, fel yn Lloegr, amheuon am rai o’r newidiadau yno a’u heffeithiau ar ddysgwyr.”