Ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni sy’n cychwyn gyda gêm Cymru yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud y byddan nhw’n gostwng prisiau’r tocynnau ar gyfer y bencampwriaeth yn 2014.
Mae pris tocyn i gemau Cymru wedi codi 20% yn y pedair blynedd diwethaf ac roedd niferoedd siomedig o 25,000 a 30,000 o seddi gwag yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer gemau yng nghyfres yr Hydref yn erbyn Yr Ariannin a Samoa.
Mae’r Undeb wedi datgan y byddan nhw’n gostwng prisiau’r gemau yn erbyn Yr Eidal a’r Alban ac na fyddan nhw’n codi prisiau’r tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc yn 2014.
Bydd gostyngiad o 18% ym mhris y tocyn yn erbyn yr Eidal a bydd gostyngiad o 12% ym mhris tocyn y gêm yn erbyn Yr Alban.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: “Bydd y gostyngiad ym mhrisiau’r Chwe Gwlad yn cynorthwyo ein holl glybiau a chefnogwyr.
“Rydym am roi’r cyfle i gymaint o bobl ag sy’n bosibl i weld Cymru yn chwarae adref ac mae Undeb Rygbi Cymru am chwarae ei rhan wrth gefnogi clybiau Cymru, a’r cefnogwyr, yn y cyfnod economaidd anodd hwn.”
Am y cyfle gorau o gael tocyn, mae Undeb Rygbi Cymru yn annog y cyhoedd i ymuno â’u clwb rygbi lleol.