Eden Hazard
Ni fydd Charlie Morgan, y bachgen gafodd ei gicio gan Eden Hazard yn ystod gêm Chelsea ac Abertawe, ar ddyletswydd yn y gêm nesaf yn Stadiwm y Liberty.

Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi cyhoeddi na fydd Morgan ar yr ystlys yn y Liberty pan mae Cymru yn chwarae Awstria ar 6 Chwefror, ond mae croeso iddo fynychu’r gêm.

Mae Morgan, 17, sy’n fab i un o brif gyfranddalwyr clwb Abertawe, wedi bod ynghanol dadl ers y digwyddiad rhyngddo ef ac Eden Hazard nos Iau diwethaf.

Disgynnodd Morgan wrth ddychwelyd a’r bêl i’r cae, ac mewn brys i chwarae ymlaen, roedd yn ymddangos bod Hazard wedi cicio’r bachgen wrth iddo orwedd ar draws y bêl.  Dangosodd y dyfarnwr gerdyn coch i’r chwaraewr, er i nifer o bobol honni mai actio oedd Morgan.

Dywedodd Cymdeithas Bêl Droed Cymru y byddai cynorthwywyr y gêm gyfeillgar yn dod o dimau dan-15 a dan-16 Union Rangers.

“Felly, ni fydd Charlie Morgan, sydd wedi cael llawer o sylw yn  y cyfryngau ers gêm Abertawe a Chelsea, yn gymwys i’r gêm yma. Ond, mae croeso iddo fynychu’r gêm” meddai’r Gymdeithas.

Mae Hazard a Morgan bellach wedi ymddiheuro wrth ei gilydd, ond mae’r chwaraewr yn wynebu gwaharddiad o dîm Chelsea yn dilyn y digwyddiad.