Harry Redknapp
Mae rheolwr QPR, Harry Redknapp wedi dwedu ei fod yn cefnogi chwaraewr Chelsea, Eden Hazard, wedi i’r asgellwr dderbyn cerdyn coch am gicio llanc yn ystod eu gêm yn y Liberty nos Fercher.

Collodd Hazard ei bwyll gyda’r llanc am iddo wrthod rhoi’r bêl iddo, a cheisiodd gicio’r bêl tra oedd y llanc yn gorwedd arni.  Mae adroddiadau mai Charlie Morgan, mab 17 oed un o brif gyfranddalwyr clwb Abertawe, Martin Morgan, oedd y bachgen.

“Fe wnaeth Hazard gicio’r bêl o dan gorff y bachgen. Pam bod yr hogyn yn gorwedd ar y bêl beth bynnag?” holodd Reknapp.

“Mae’n bosib deall ei deimladau – mae’n chwaraewr sy’n ceisio cyrraedd rownd derfynol y gwpan, ond mae rhyw blentyn yn ymddwyn yn hurt yn gwrthod rhoi’r bêl yn ôl,” ychwanegodd y rheolwr. “Fe wnaeth Hazard ond cicio’r bêl, nid y bachgen, mae’r holl beth wedi chwyddo allan o reolaeth.”

Defnyddiodd y bachgen, Charlie Morgan, ei gyfrif Trydar heddiw am y tro cyntaf ers y digwyddiad i ddatgan bod y 24 awr ddiwethaf wedi bod yn “wallgof”.  Dywedodd iddo siarad gydag Eden Hazard ac na fyddai yn gwneud cyhuddiadau troseddol yn ei erbyn.

Doedd Harry Redknapp ddim wedi cael argraff dda o ddefnydd Morgan o’i gyfrif Trydar chwaith.

“Roedd yr hogyn yn trydar cyn y gêm ei fod yn wastraffwr amser o fri. Mae ei ymddygiad yn warthus,” meddai Redknapp. “Gallai feddwl am sawl chwaraewr a fyddai wedi cicio’r hogyn dipyn caletach na wnaeth Hazard hefyd!”