Ddydd Sul fe fydd Gleision Caerdydd yn herio’r Saraseniaid yn eu cartref newydd, Parc Allianz yng nghwpan yr LV.
Gyda naw o’u chwaraewyr yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae Phil Davies wedi gwneud nifer o newidiadau i’r garfan a wnaeth guro Sale Sharks yng Nghwpan yr Heineken ddydd Sadwrn diwethaf.
Ar y funud, mae’r Gleision yn y drydedd safle yng ngrŵp 2, ond yn rhannu’r un pwyntiau â Sale a Chaerwrangon sydd o’u blaenau.
Mi fydd Jason Tovey yn safle’r cefnwr, gydag Owen Williams yn symud i’r asgell tra bydd y canol cae yn cael ei lenwi gan Gavin Evans a Dafydd Hewitt. Mae Harry Robinson yn parhau i fod ar yr asgell gyda Ceri Sweeney yn safle’r maswr a Lewis Jones yn gwisgo’r crys rhif naw.
O ran y blaenwyr mae yna lawer o newid, Sam Hobbs yw’r unig chwaraewr sydd wedi cadw ei le o’r gêm ddydd Sadwrn diwethaf.
Tîm y Gleision
Olwyr – Jason Tovey, Owen Williams, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Harry Robinson, Ceri Sweeney a Lewis Jones.
Blaenwyr – Robin Copeland, Rory Watts-Jones, Luke Hamilton, Macauley Cook, Michael Paterson, Beniot Bourrust, Kristian Davies a Sam Hobbs.
Eilyddion – Rhys Williams, Nathan Trevett, Taufa’ao Filise, Cory Hill, Thomas Young, Alex Walker, Gareth Davies a Tom Williams.