Mae’r blaenwr ifanc o dîm pêl-droed Cei Connah, Rhys Healey, ar fin arwyddo cytundeb newydd hefo Caerdydd.  Roedd y llanc yn derbyn profion meddygol ddoe, ac mae disgwyl iddo arwyddo i’r clwb heddiw.

Mae Healey, 18, sydd wedi sgorio 12 gôl mewn 12 gêm i Gei Connah yn Uwch Gynghrair Cymru, wedi gwneud cryn argraff ar hyfforddwr Caerdydd, Malky Mackay.

“Mae ein system sgowtio newydd yn sicrhau bod ganddon ni wybodaeth am chwaraewyr sy’n datblygu ym mhob rhan o’r byd, yn cynnwys Cymru,” meddai Mackay.

“Mae Rhys yn chwaraewr ifanc sydd hefo llawer iawn o botensial, ac rydyn ni yn hapus iawn iddo ymuno gyda ni.  Mae wedi bod yn sgorio yn rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair a bydd yn gweithio gyda’r sgwad ddatblygu i ddechrau.”

Bydd Healey yn chwarae gyda thîm dan 21 y clwb, ac mae Mackay yn obeithiol y bydd yn chwaraewr pwysig i Gaerdydd dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae’n un arall o nifer o chwaraewyr ifanc a thalentog yn ein clwb, ac rydym yn obeithiol y bydd yn datblygu yn bellach dros y blynyddoedd nesaf,” meddai Mackay.

Roedd Mackay yn siarad o Dubai, lle mae Caerdydd yn gwneud y mwyaf o’r hinsawdd gynnes i hyfforddi dros y gaeaf.