Mae Cyngor Ynys Môn wedi cryfhau’r rheolau yn erbyn codi melinau gwynt – yn enwedig yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol o amgylch yr arfordir.

Ar ôl derbyn deiseb gydag 8,000 o enwau, fe benderfynodd y Cyngor gyhoeddi Cyngor Cynllunio newydd i gyfyngu ar ddatblygiadau ffermydd gwynt canolig a mawr.

Fyddan nhw ddim yn cefnogi tyrbinau o fewn yr Ardal Harddwch nac o fewn 2 kilometr iddi ac fe fydd y rheolau am bellter oddi wrth dai hefyd yn gryfach.

Mae Ynys Môn yn ceisio datblygu cynlluniau i’w throi yn ynys ynni ac mae’r cyngor yn cefnogi’r syniad o gael ail atomfa yn yr Wylfa.

Cryfhau ymhellach

Mewn cyfarfod ddoe, fe gafodd dau welliant arall eu pasio i gryfhau’r cyfyngiadau ymhellach – un yn dweud y byddai’n rhaid ystyried effaith gynyddol mwy nag un datblygiad a’r llall yn dweud y byddai rhaid i ddatblygwyr ymrwymo i glirio safleoedd ar ôl iddyn nhw orffen cynhyrchu trydan.

“Mae cryfder y gwrthwynebiadau yn erbyn tyrbinau gwynt mewn cymunedau ar hyd a lled yr Ynys yn amlwg,” meddai arweinydd y cyngor, Bryan Owen.

“Fel cynghorwyr, mae gynnon ni ddyletswydd i gynrychioli ein hetholwyr a Môn. Heddiw, dw i’n teimo ein bod wedi gwrando ac ymddwyn er lles gorau’r bobol a’r Ynys yn ei chyfanrwydd.”