Yn ôl undeb Unsain mae 300 o weithwyr wedi cymryd rhan mewn rali brotest y tu allan i swyddfeydd Cyngor Sir Gwynedd brynhawn yma.

Mae aelodau’r undeb yn dweud eu bod wedi cael eu “bradychu” gan godiadau cyflog i gyfarwyddwyr ac uwch swyddogion, tra bod cyflogau gweithwyr cyffredin wedi cael eu rhewi.

Yn ôl Silyn Roberts o undeb Unsain roedd gweithwyr wedi cytuno i dderbyn pecyn oedd yn gyfystyr â rhoi diwrnod a hanner yn ddi-dâl i’r awdurdod mewn blwyddyn, heb wybod fod y penaethiaid yn cael codiadau.

“Rydan ni’n meddwl fod tua 20 ohonyn nhw wedi cael codiad sy’n amrywio o dros £1,200 a £6,000,” meddai Silyn Roberts.

Dywedodd fod gweithwyr cyffredin yn “flin” a bod moral yn isel o ganlyniad i’r penderfyniad.

Ymateb i her ariannol

Mewn datganiad mae Cyngor Gwynedd wedi dweud fod codiad cyflog y prif swyddogion “yn deillio o bolisi tâl a sefydlwyd yn 2009” ac yn “gymharol isel o’i gymharu gydag awdurdodau eraill.”

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards, wedi dweud fod y penderfyniad i godi cyflogau penaethiaid heb fod yn un hawdd a bod yn rhaid i’r Cyngor “daro cydbwysedd rhwng talu cyflogau teg a denu staff, a gwarchod gwasanaethau.”

Gan gyfeirio at benderfyniad y gweithwyr cyffredin i dderbyn y pecyn dywedodd Dyfed Edwards fod y Cyngor yn “falch fod y gweithlu wedi ymateb i her ariannol y Cyngor.”