Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi yn dechrau taith deuddydd i Iwerddon heddiw er mwyn ceisio datblygu a chryfhau’r cysylltiad masnach rhwng y ddwy wlad.

Bydd Carwyn Jones yn dechrau ei ymweliad gyda chyfarfod ag Arlywydd Iwerddon, Michael Higgins, heddiw a bydd hefyd yn cyfarfod cwmnïau masnachol ac yn mynychu digwyddiad ar gyfer buddsoddwyr.

Yfory, bydd y Prif Weinidog yn annerch cynhadledd gyntaf y Siambr Fasnach Prydeinig-Wyddelig.

Dywedodd Carwyn Jones: “Mae Iwerddon yn ffrind agos i Gymru ac mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o weld ein cysylltiadau yn parhau ac yn ffynnu.

“Mae dyfodol economaidd ein dwy genedl yn gysylltiedig – mae economi gref, sy’n tyfu yn Iwerddon yn dda i Gymru, yn enwedig gan mai’r wlad yw ein marchnad allforio ail fwyaf.

“Rwyf wrth fy modd cael bod yn Nulyn i gwrdd ag Arlywydd Higgins, darpar fuddsoddwyr a chwmnïau i drafod sut ydyn ni am gefnogi ein heconomïau a chreu swyddi.

“Mae ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd a’r Farchnad Sengl y mae’n ei gynnig yn hanfodol i’r ddau ohonom a bydd ganddynt rôl ganolog yn  llwyddiant economïau’r ddwy wlad. “