Colin Morgan yn derbyn ei wobr gan Darcey Bussell
Cafodd prif actor y gyfres ‘Merlin’ ei wobrwyo neithiwr yn seremoni’r Gwobrau Teledu Cenedlaethol, yr NTAs.

Enillodd Colin Morgan y wobr Actor Gorau Mewn Drama, am ei rôl  yn y gyfres ‘Merlin’, sy’n cael ei chynhyrchu yng Nghaerdydd gan gwmni teledu Shine a BBC Wales.

Mae Colin Morgan, o Armagh yng Ngogledd Iwerddon, wedi bod yn y ddrama boblogaidd ers 2008, nes iddi ddod i ben dros y Nadolig  ar ol 5 cyfres. Roedd Merlin yn wynebu cystadleuaeth gan Benedict Cumberbatch o’r gyfres  ‘Sherlock’, Daniel Mays o’r gyfres ‘Mrs Biggs’ a Matt Smith o ‘Dr Who’, sydd hefyd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru.

Dywedodd Morgan iddo gael “amser gwych” yn ffilmio ‘Merlin’.

Ymysg yr enillwyr eraill oedd ‘Downton Abbey’ am y ddrama orau, Miranda Hart am yr actores orau mewn drama, a ‘Mrs Brown’s Boys’ am y gomedi orau.